Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 | Post-legislative scrutiny of the Higher Education (Wales) Act 2015

HEA 08

Ymateb gan: Prifysgol Caerdydd

Response from: Cardiff University

 

Trosolwg

i.          Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol, sydd â gweledigaeth feiddgar a strategol. Daeth ein gwaith ymchwil rhagorol yn 5ed am ansawdd ac yn 2il am effaith ymysg prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Rydym yn cynnig profiad addysgol rhagorol i'n myfyrwyr. Drwy roi pwyslais ar greadigrwydd a chwilfrydedd, ein nod yw cyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd.

ii.         Diben Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 oedd diwygio, diddymu ac amnewid rhai o swyddogaethau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Drwy ddiwygio yn hytrach na disodli CCAUC, roedd y Ddeddf yn sicrhau nad oedd gwybodaeth sefydliadol ac arbenigedd sector y rheoleiddiwr yn mynd ar goll.

iii.        Dylai deddfwriaeth yn y maes hwn yn y dyfodol, gan gynnwys y Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol arfaethedig, gydnabod mai llywodraeth hyd braich a rheoleiddiwr ymgynghorol sy'n ymgysylltu â'r sector yw'r system fwyaf priodol ar gyfer addysg uwch.

iv.        I'r perwyl hwnnw, dylai'r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol sicrhau Egwyddor Haldane — sef mai ymchwilwyr ddylai fod yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn y dylid gwario cyllid ymchwil arno — yn ffurfiol yng nghyfraith Cymru. Mae'r egwyddor yn parhau i ganiatáu diogelu budd y cyhoedd drwy dystio i fudd cenedlaethol, ond mae hefyd yn diogelu rhyddid academaidd.  Adleisiwyd hyn gan adroddiad diweddar Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn eu hymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru.[1]

v.         Rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau cyllidebol a wynebir gan Lywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda'r cyfryw bwysau mewn perygl o waethygu yn sgil Brexit. Roedd egwyddorion atebolrwydd a chyflawni budd y cyhoedd yn elfennau hanfodol yn y Ddeddf, ac rydym ni'n parhau'n ymrwymedig i'r nodau hyn.

vi.        Dylai’r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol hefyd gydnabod natur ryngwladol addysg uwch, gan geisio sicrhau nad yw unrhyw reoliadau'n creu rhwystrau diangen i gydweithio byd-eang ar ôl Brexit.

 

Cwestiynau ymgynghori

1.          Ydy'r Ddeddf wedi, neu a ydyw ar hyn o bryd yn cyflawni ei hamcanion polisi, ac os na, pam ddim?

1. 1       Fel y dywed Llywodraeth Cymru, prif amcanion polisi'r Ddeddf oedd:

"(a) sicrhau trefn reoleiddio gadarn a chymesur ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau'n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau addysg uwch Llywodraeth Cymru;

(b) diogelu'r cyfraniad a wneir i les y cyhoedd sy'n deillio o gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch;

(c) cynnal ffocws cryf ar fynediad teg at addysg uwch;

(d) gwarchod a diogelu annibyniaeth prifysgolion a rhyddid academaidd.”[2]

1. 2       Felly, yn ôl y Ddeddf roedd rhaid i CCAUC gyflwyno Cynlluniau Ffioedd a Mynediad, sy'n angenrheidiol i sefydliadau sy'n dymuno i'w cyrsiau fod yn gymwys i gael cymorth ariannol myfyrwyr.

1.3        Yn gyffredinol, mae'r Cynlluniau Ffioedd a Mynediad yn cynorthwyo'r Ddeddf i gyflawni ei hamcanion, yn enwedig (a), (b) a (c). Mae ein Cynllun Ffioedd a Mynediad yn cynnig cyfle i Brifysgol Caerdydd osod yn glir, mewn un ddogfen, cyfanswm y buddsoddiad a'r gweithgareddau rydym yn ymgymryd â nhw i gefnogi agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfle cyfartal a hyrwyddo addysg uwch mewn proses gynhwysfawr.

1.4        Hefyd sefydlodd y Ddeddf bod angen i CCAUC reoleiddio materion ariannol drwy God Rheolaeth Ariannol, a ddaeth i rym ar 1 Awst 2017[3].  Mae hon yn ffordd briodol o gyflawni amcan (b).

1.5       Nid yw annibyniaeth a rhyddid academaidd y sefydliad wedi'u cwestiynu ers deddfu'r bil, ac ni chafwyd effaith niweidiol. Felly ni welwn reswm dros gredu bod y Ddeddf wedi methu mewn perthynas ag amcan (d).

1.6       Mae'n werth nodi y bu diogelu rhyddid academaidd yn bryder ar draws y sector a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y broses papur gwyn ac ymgynghori technegol. Mae'n egwyddor sy'n bwysig iawn i Brifysgol Caerdydd; prifysgol mewn enw yn unig yw prifysgol heb ryddid academaidd. Credwn y gallai fod angen i unrhyw Ddeddfau yn y dyfodol gynnwys Egwyddor Haldane yn ysgrifenedig ynddynt.

1.7        Nid yw goblygiadau'r Ddeddf o ran asesu ansawdd wedi'u gwireddu'n llawn eto. Ceir rhagor o wybodaeth isod.

2.         Pa mor dda mae trefniadau cyffredinol y Ddeddf yn gweithio'n ymarferol, gan gynnwys unrhyw weithredu mae eich sefydliad wedi gorfod ei wneud dan y Ddeddf?

2.1        Mae gan Brifysgol Caerdydd berthynas gref gyda CCAUC. Ar lefel weithrediadol rydym ni'n croesawu digwyddiadau ymgynghori a rhwydweithio CCAUC, yn enwedig y rheini sy'n cynorthwyo gyda'n Cynlluniau Ffioedd a Mynediad a monitro cydymffurfiaeth ac effeithiolrwydd. Mae'r digwyddiadau hyn yn arwydd o'r dialog agored rydym ni'n ei gynnal gyda CCAUC, sydd hefyd yn arwain at rannu syniadau a phrofiadau gyda sefydliadau eraill.

2.2       Mae CCAUC yn gweithredu mewn modd tryloyw a chynhwysol, ac wedi bod yn agored i graffu a chyngor allanol. Er enghraifft gwnaeth yr Adolygiad AU ar lefel Uwch a gomisiynwyd gan CCAUC rai argymhellion defnyddiol mewn perthynas â'r Cynllun Ffioedd a Mynediad.

2.3       Yn yr un modd, mae'r gofyniad i gyhoeddi Cynlluniau Ffioedd a Mynediad yn allanol yn gadael i sefydliadau rannu sut mae eu gwaith ehangu cyfranogiad wedi esblygu a'r rhesymu y tu ôl i'w ffocws ar rai grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

2.4       Ar hyn o bryd, mae'n anodd gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau cyffredinol y Ddeddf, yn enwedig o ran asesu ansawdd. Cyhoeddwyd fersiwn terfynol Fframwaith Asesu Ansawdd CCAUC ym mis Mawrth 2018. Mae'r Fframwaith hwn yn egluro'r trefniadau sydd gan CCAUC i'w sicrhau ei hun bod ansawdd yr addysg, neu gwrs o addysg, a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau a reoleiddir yn bodloni anghenion y rheini sy'n ei derbyn. Gan fod y Fframwaith yn sylfaenol i weithrediad y Ddeddf, yn enwedig Rhan 3, bydd yn hanfodol gwerthuso gweithrediad y Fframwaith er mwyn asesu trefniadau cyffredinol y Ddeddf.

2.5       Byddai'n fuddiol ystyried sut y caiff y Ddeddf ei hintegreiddio'n gyson drwy'r holl brosesau a weithredir drwy CCAUC, gan sicrhau ymagwedd gydlynol at drafodaethau a cheisiadau am ddata. Byddai hyn yn osgoi dyblygu proses, baich gweinyddol ac yn rhoi dealltwriaeth glir o'r ffordd y cynlluniwyd y Ddeddf i weithio'n ymarferol. Byddai hefyd yn galluogi darparwyr a reoleiddir i ddeall eu rhwymedigaethau mewn modd cyfannol.

2.6       Mae unrhyw ddiweddariadau dilynol i ddatganiad CCAUC o ymyriad sy'n barnu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad a reoleiddir yn (debygol o fod yn) annigonol.

2.7       Mae gennym sylwadau ynghylch Cynlluniau Ffioedd a Mynediad ac Adroddiadau Cydymffurfio ac Effeithiolrwydd, ond manylion yw'r rhain yn hytrach nag egwyddor.

2.8       Mae croeso i'r fformat newydd ar gyfer adrodd ar gydymffurfio ac effeithiolrwydd a gyflwynwyd ar gyfer 2017/18. Mae'n gosod strwythur clir ar gyfer yr wybodaeth sydd ei hangen ac nid yw bellach yn gyfyngedig i gynnydd yn erbyn targedau. Roedd yr adroddiad yn fwy heriol i sefydliadau ei gwblhau ond roedd yn cynnig gwell dealltwriaeth.

2.9       Teimlwn y dylid cael o leiaf 12 wythnos rhwng cyhoeddi canllawiau a thempledi terfynol CCAUC (neu'r corff fydd yn ei olynu) a dyddiad cau'r prifysgolion ar gyfer cyflwyno'r dogfennau. Nid yw'r bwlch presennol o 7 wythnos neu lai yn caniatáu i sefydliadau ymateb yn briodol i newidiadau yn y canllawiau neu gynnwys cyrff llywodraethu (a allai gyfarfod yn anfynych) yn natblygiad y cynlluniau.

2.10     Hefyd mae Canllawiau'r Cynllun Ffioedd a Mynediad wedi dilyn fformat tebyg dros nifer o flynyddoedd a byddent yn elwa o gael eu hadolygu, eu hadnewyddu a'u cwtogi, gan ystyried argymhellion yr adolygiad AU ar lefel Uwch a'r ymagwedd newydd a'r dogfennau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Myfyrwyr yn Lloegr. Gellid ystyried dadleuon dros symud i gynllunio tymor hirach, efallai ar gylch o bum mlynedd.

3.         Ydy costau'r ddeddf, neu gostau eich sefydliad chi am weithredu a wnaed dan y Ddeddf, yn unol â'r hyn y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddent?

3.1        Rydym yn cydnabod pwysigrwydd fframwaith rheoleiddiol cadarn sydd wedi'i ariannu'n briodol. Fodd bynnag, yn yr hinsawdd o bwysau ac ansicrwydd ariannol sydd ohoni, byddem yn annog adolygiad o ofynion y Cynllun Ffioedd a Mynediad gan nad yw lefel y gweithgarwch gweinyddol sydd ei hangen i gydymffurfio â'r Ddeddf yn gymesur i'r buddiannau yn ôl pob golwg.

4.         Ydy'r Ddeddf wedi cyflawni gwerth am arian?

4.1        Byddem yn ildio i Lywodraeth Cymru i wneud yr asesiad hwn o ran y Ddeddf a'i chylch gorchwyl cyflawn.

4.2       Fodd bynnag, o ran budd i'r cyhoedd rydym ni'n gallu nodi bod ein heffaith gadarnhaol ar economi Cymru wedi parhau ar i fyny ers deddfu. Mae London Economics, un o brif gwmnïau ymgynghori arbenigol Ewrop o ran polisi ac economeg, wedi cyfrifo effaith economaidd flynyddol Prifysgol Caerdydd dros dair blwyddyn academaidd, gan ddangos ei fod yn cynyddu'n gyson:

·         yn 2012/13 amcangyfrifwyd ei fod yn £2.04 biliwn yng Nghymru;[4]

·         yn 2014/15 tyfodd i £2.2 biliwn yng Nghymru;[5]

·         yn 2016/17 tyfodd eto i £2.37 biliwn yng Nghymru[6]

4.3       Ni fyddem yn dymuno pwysleisio bod cydberthynas yn cyfateb i achosiaeth, ond mae'r data mwyaf diweddar yn nodi nad oes unrhyw effaith negyddol i'r budd economaidd.

5.         A gafwyd unrhyw ganlyniadau anfwriadol neu negyddol yn sgil y Ddeddf?     

5.1       Fel y nodwyd yn ein hymateb i gwestiwn 2, mae rhannau cyfansoddol y Ddeddf wedi'u rhoi ar waith ar adegau gwahanol sy'n golygu ei bod yn anodd gwerthuso'r canlyniadau cyfannol a fwriadwyd. Byddem yn awgrymu bod unrhyw ddiwygiadau pellach ac ymgynghoriadau ategol yn cael eu hystyried yn gyfannol yn hytrach na mewn rhannau ar wahân.

5.2       Mae'r gofyniad i gynnwys cyfeiriad at y Ddeddf ym mhob un o'r trefniadau cydweithredol wedi bod yn broblematig oherwydd amseru adolygiadau gyda phartneriaethau. Mae angen cadarnhad yn y Cynllun Ffioedd a Mynediad bod y cymal wedi'i ychwanegu ym mhob cytundeb partneriaeth gyda sylw Ie/Na. Mae hyn wedi achosi gweithredu minimal i bartneriaethau yng Nghymru gan ei fod yn ofyniad ym mhob sefydliad a reoleiddir. Mae anawsterau wedi codi wrth esbonio diben y cymal gyda darparwyr a reoleiddir/allanol y tu hwnt i Gymru, gydag anawsterau pellach gyda phartneriaid rhyngwladol gyda darpariaeth addysgol. Mae angen rhagor o waith yn y maes hwn i sicrhau bod gofynion y Ddeddf yn cael eu rheoli'n ofalus drwy'r wybodaeth sydd ei hangen yn y cynllun Ffioedd a Mynediad i sicrhau cysondeb.

5.3       Mae Prifysgol Caerdydd wedi gorfod ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol ar ofynion y cymal hwn gan fod llawer o bartneriaethau rhyngwladol yn anghyfforddus ei fod yn cael ei ychwanegu at unrhyw gytundeb sefydliadol. Mae hyn yn ychwanegu at y baich wrth geisio meithrin perthnasoedd hirhoedlog mewn amgylchedd addysgol cystadleuol. Nid oes gan ein cydweithwyr yng Ngrŵp Russell y baich ychwanegol hwn.

5.4       Mae partneriaethau rhyngwladol yn ganolog i'r genhadaeth addysg uwch, a bydd yn gynyddol bwysig ar ôl Brexit. Yn wir, mae gennym nifer o bartneriaethau rhyngwladol gyda sefydliadau ar draws y byd, gan gynnwys: Katholieke Universiteit (KU) Leuven yng ngwlad Belg; Prifysgol Xiamen yn Tsieina; Prifysgol Namibia (UNAM); Prifysgol Campinas (Unicamp) yn São Paulo, Brazil.[7]

5.5      Yn fwyaf diweddar rydym ni wedi llofnodi cytundeb partneriaeth gyda Phrifysgol Bremen yn yr Almaen er mwyn cryfhau ein cysylltiadau Ewropeaidd cyn Brexit.[8] Ffurfiwyd 'Cynghrair Bremen-Caerdydd' ar 8 Mawrth 2019 ac mae’n hwyluso datblygiad gweithgareddau ymchwil ar y cyd a mathau newydd o gydweithio academaidd rhwng y sefydliadau.

5.6      Mae angen eglurhad pellach ar isadran 17(2) y Ddeddf:

"At ddibenion isadran (1), caiff addysg a ddarperir y tu allan i Gymru ei thrin fel addysg a ddarperir yng Nghymru os yw'n rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru."[9]

5.7       Mae angen eglurhad ar yr hyn yw 'cwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru'.  Byddai'n ddefnyddiol cael arweiniad pellach ar derfynau uchaf/isaf darpariaeth sydd i'w thrin fel darpariaeth yng Nghymru.

5.8      Mae angen eglurhad pellach hefyd ar isadrannau 17 (3) a 21 (2) yn y Ddeddf:

"Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at ddarparwr allanol yn gyfeiriadau at berson —

(a) nad yw'n sefydliad a reoleiddir, ond

(b) sy'n gyfrifol am ddarparu cwrs cyfan neu ran o gwrs addysg ar ran sefydliad a reoleiddir." [10]

"Rhaid i gorff llywodraethu unrhyw ddarparwr allanol sicrhau bod person sy'n ymarfer swyddogaeth drwy rinwedd adran 17 neu 20(2) yn derbyn y cyfryw wybodaeth, cymorth a mynediad at gyfleusterau'r darparwr allanol ag sydd eu hangen yn rhesymol ar y person at ddibenion ymarfer y swyddogaeth (gan gynnwys at ddiben ymarfer unrhyw bŵer dan adran 22)."[11]

5.9      Mae angen eglurhad a yw'r isadrannau hyn yn cyfeirio at bartneriaid rhyngwladol lle mae gan y Ddeddf awdurdodaeth gyfyngedig neu ddim awdurdodaeth o gwbl. A derbyn ein bod wedi ymgymryd â baich ariannol ychwanegol yn y maes hwn, byddai'n ddefnyddiol cael pwynt(iau) ychwanegol yn ymwneud ag arweiniad gyda phartneriaid rhyngwladol

5.10     Mae ystyr 'cyfle cyfartal a hyrwyddo addysg uwch' yn y Ddeddf yn aneglur.[12] Er enghraifft nid yw'n glir a yw hyn yn ymwneud â chodi dyheadau, cenhadaeth ddinesig neu weithgareddau ymgysylltu. Ymhellach, mae angen egluro a yw hyn yn gyfyngedig i blant/pobl ifanc, ynteu ai'r bwriad yw hyrwyddo'n ehangach.

5.11      Y dehongliad mwyaf amlwg o'r ddeddfwriaeth a'i nodiadau esboniadol yw mai un maes o weithgaredd yw hwn wedi'i anelu at gynyddu cyfranogiad, cyfraddau cadw a llwyddiant myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

5.12     Fodd bynnag, dehongliad CCAUC yw bod y rhain yn ddau faes gweithgaredd ar wahân, gydag un (cyfle cyfartal) yn gymwys i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ond nid y llall (hyrwyddo addysg uwch). Dan yr ail ddehongliad hwn nid yw'n glir beth mae 'hyrwyddo addysg uwch' yn ei olygu a beth y dylai ei gynnwys. Mae risg y bydd hyn yn arwain at Gynlluniau hir, eang, heb ffocws. Mae'r ddeddfwriaeth gyfatebol yn Lloegr yn cyfeirio at gyfle cyfartal yn unig.

6.         A oes gwersi i'w dysgu o'r Ddeddf a'r ffordd mae'n gweithio’n ymarferol a allai fod yn berthnasol i'r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol arfaethedig?

6.1       I ailadrodd y safbwynt sylfaenol, yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2018 ar y 'Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru' roedd yn glir mai diben sylfaenol y Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol fydd dod a'r holl addysg, hyfforddiant ac ymchwil ôl-16 at ei gilydd.[13]

6.2       Er mwyn cyflawni'r newid hwn caiff un rheoleiddiwr (a enwyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru) ei greu i gadw trosolwg ar ystod eang o ddarparwyr addysg, hyfforddiant ac ymchwil ôl-orfodol. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall deddfwriaeth sicrhau cysylltiadau cadarnhaol gyda'r awdurdod rheoleiddio newydd yn ogystal â'r ystod eang o ddarparwyr y bydd yn eu rheoleiddio.

6.3       Fel yr amlinellir uchod, ceir gwybodaeth sefydliadol a dealltwriaeth gref o'r sector addysg uwch yn CCAUC. Dylai’r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol ofalu nad yw’n disodli arbenigedd CCAUC a'r perthnasoedd gwerthfawr sydd wedi'u meithrin dros amser. Byddai gwneud hynny'n niweidio prifysgolion Cymru'n sylweddol.

6.4       Er mwyn diogelu gwerth unigryw addysg uwch, dylai’r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol gynnwys ymrwymiad penodol i Egwyddor Haldane, sy'n addef y dylai penderfyniadau ar gyllid ymchwil gael eu gwneud gan ymchwilwyr neu y dylid "gwneud penderfyniadau mor agos â phosibl at yr ymchwilwyr sy'n cynnal yr ymchwil".[14]

6.5      Yn wir, gosododd Llywodraeth y DU yr egwyddor yn ei Deddf Addysg Uwch ei hun yn 2017, gan wneud hynny'n benodol i sicrhau nad oes unrhyw ymyrraeth wleidyddol mewn ymchwil.[15] [16]

6.6      Nid yw Egwyddor Haldane yn atal cyflawni budd i'r cyhoedd ac rydym ni'n hynod o ymwybodol iawn bod angen i brifysgolion gyflawni eu cenhadaeth ddinesig i'r cymunedau maent yn rhan ohonynt. Yn yr un modd byddem yn deall rhwystredigaeth y rheini o'r tu allan i'r sector AU bod Comisiwn cyfunol yn rheoleiddio darparwyr (h.y. chweched dosbarth, addysg bellach ac addysg uwch) mewn ffyrdd gwahanol.

6.7       Fodd bynnag, rydym ni'n brifysgol ymchwil-ddwys, a ni yw’r unig aelod o Grŵp Russell yng Nghymru. Gwerth penodol prifysgol yw cymhwyso dulliau gwyddonol a'r ddealltwriaeth a geir drwy ddulliau o'r fath. Ni ddylai cydweddu'r sector addysg, hyfforddiant ac ymchwil ôl-orfodol olygu gwastatáu cryfderau penodol darparwyr.

6.8      Byddem yn bryderus iawn pe bai fframweithiau rheoleiddio AU neu AB yn cael eu trawsosod ar ben ei gilydd heb ymgynghori priodol ac ystyried yr effaith.

6.9      Mae angen cydbwysedd hefyd rhwng cymorth a chraffu, yn ogystal â sicrhau cyfleoedd am ddialog y gellid eu gosod yn y ddeddfwriaeth, neu mewn offerynnau deddfwriaeth eilaidd.

6.10     Hoffem ailadrodd y dylai'r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol gydnabod pwysigrwydd cydweithio rhyngwladol ym maes addysg uwch ac na ddylai gynnwys unrhyw rwystrau i gydweithio o'r fath.

6.11      Nid yw gweithgaredd rhyngwladol yn niweidiol i economi Cymru ac nid oes modd dyblygu'r manteision penodol sy'n deillio ohono o fewn ffiniau cenedlaethol. Mae cydweithio rhyngwladol yn hanfodol i gryfder prifysgolion, gydag arloesedd o ran gwyddoniaeth, ymchwil a menter i'w canfod ar y lefel ryngwladol. Mae ymchwil rhyngwladol hefyd yn caniatáu rhannu adnoddau nad ydynt ar gael yn rhwydd o fewn un genedl.[17]

6.12     Mae ymagwedd ryngwladol hefyd o fudd sylweddol i economi Cymru. Canfu adroddiad yn 2017 gan Viewforth Consulting ar ran Prifysgolion Cymru dystiolaeth o effaith gadarnhaol myfyrwyr rhyngwladol ar economi Cymru. Gan ddadansoddi effaith economaidd y 22,190 o fyfyrwyr rhyngwladol ar Gymru oedd yn astudio yn yr wyth Prifysgol yng Nghymru yn ystod 2015/16, dangoswyd bod y myfyrwyr a'u hymwelwyr yn cynhyrchu:

·         £487m o enillion a allforiwyd (cyfateb i 3.7% o holl allforion Cymru yn 2015);

·         £716m o allbwn o Gymru;

·         £372m o Werth Ychwanegol Gros Cymreig.[18]

6.13     Yn yr un modd, dangosodd adroddiad yn 2018 gan London Economics i'r Sefydliad Polisi Addysg Uwch a Kaplan International Pathways fod myfyrwyr rhyngwladol yn etholaethau Cynulliad Cymru/Senedd y DU yn darparu enillion net o £900.7m i economi'r DU, gyda'r 3,225 o fyfyrwyr rhyngwladol ym mhedwar etholaeth Caerdydd a Phenarth yn unig yn cyfrannu £244.7m.[19]

7.         Oes unrhyw wersi i'w dysgu o'r ffordd y cafodd y Ddeddf hon ei pharatoi yn 2014/15 (ffurfio, ymgynghori, drafftio ac ati)?

7. 1      Dim sylwadau i'w hychwanegu i'r uchod.



[1] Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, "Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru", Ebrill 2019

[2]Llywodraeth Cymru, Bil Addysg Uwch (Cymru) Memorandwm Esboniadol (2015) <http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld9758-em%20%20-%20higher%20education%20%20(wales)%20bill%20-%20explanatory%20memorandum/pri-ld9758-em-w.pdf> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[3] CCAUC, Côd Rheolaeth Ariannol 2017

[4]M. Halterbeck a G. Conlon, The economic and social impact of Cardiff University, (Llundain: London Economics, 2015), <https://londoneconomics.co.uk/wp-content/uploads/2015/10/LE-Economic-and-social-impact-of-CU-Full-Report-October-2015.pdf> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[5]M. Halterbeck and G. Conlon, The economic and social impact of Cardiff University: diweddariad 2014-15, (London: London Economics, 2016), <https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0018/520515/The-economic-and-social-impact-of-Cardiff-University-2014-15-update.pdf> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[6]M. Halterbeck and G. Conlon, The economic and social impact of Cardiff University in 2016-17, (Llundain: London Economics, 2018), <http://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0004/521788/LE-Economic-and-social-impact-of-CU-2016-17-update-11-10-2018-FINAL.pdf> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[7]Prifysgol Caerdydd, International partnerships, 2019, <https://www.cardiff.ac.uk/international/international-partnerships> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[8]Prifysgol Caerdydd, Prifysgolion Caerdydd a Bremen yn arwyddo partneriaeth, 2019, <https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/1465661-cardiff-and-bremen-universities-sign-partnership> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[9] Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (anaw 1) (deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru) <http://www.legislation.gov.uk/anaw/2015/1/section/17/enacted> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[10] Deddf Addysg Uwch (Cymru), 2015, t. 10.

[11]Ibid, t. 11.                                                                 

[12]Ibid, t. 5.

[13]Llywodraeth Cymru, Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – y camau nesaf (2018) <https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2018-04/180423-comisiwn-addysg-drydyddol-ac-ymchwil-i-gymru-dogfen-ymgynghori.pdf> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[14]P. Nurse, ‘Address of the President, Sir Paul Nurse, Given at the Anniversary Meeting on 30 November 2011’, Notes and Records of the Royal Society of London, 66(1) (2012), 89-93 (t. 91).

[15] Higher Education and Research Act 2017, c. 29.(Llundain: The Stationery Office, 2017) <http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2017/29/section/103/enacted> (Cyrchwyd: 28 Mawrth 2019).

[16]P. Ghosh, Minister to enshrine protection for research independence, 2017, <https://www.bbc.co.uk/news/science-environment-39078281> (Cyrchwyd: 29 Mawrth 2019).

[17]J. Adams and K. A. Gurney, The Implications of International Research Collaboration for UK Universities, (Llundain: Digital Science, 2016), <https://www.universitiesuk.ac.uk/policy-and-analysis/reports/Documents/International/implications-research-digital-collaboration-uk-universities.pdf> (Cyrchwyd: 29 Mawrth 2019)

[18]U. Kelly and I. McNicoll, The Economic Impact of International Students in Wales, (Caerdydd: Prifysgolion Cymru, 2017), <http://uniswales.ac.uk/media/Unis-Wales-international-student-research.pdf> (Cyrchwyd: 29 Mawrth 2019.

[19]G. Conlon, M. Halterbeck and J. Julius, The costs and benefits of international students by parliamentary constituency, (Llundain: London Economics, 2018), <https://www.hepi.ac.uk/wp-content/uploads/2018/01/Economic-benefits-of-international-students-by-constituency-Final-11-01-2018.pdf> (Cyrchwyd: 29 Mawrth 2019).